Rydym yn galw
ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i roi
ystyriaeth arbennig i ddefnyddio cyllid rhanbarthol Ewropeaidd i
ailddatblygu Tonpentre a Phentre yng Nghwm Rhondda.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Glynrhedynog a’r Maerdy yn Rhondda Fach a Threherbert yn
Rhondda Fawr wedi cael cyllid o Ewrop drwy gynllun Blaenau’r
Cymoedd i ailddatblygu. Rydym yn teimlo y dylai Tonpentre a Phentre
gael arian Ewropeaidd hefyd i’w rhoi yn yr un sefyllfa
â gweddill yr ardal.
Prif ddeisebydd: Mike Powell
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 389